click to play

1. Mi sydd fachgen ieuanc ffol.
Yn byw yn ol fy ffansi
Myfi'n bugeilior gwenith gwyn,
Ac arall yn ei fedi.
Pam na ddeui ar fy ol,
Ryw ddydd ar ol ei gilydd?
Gwaith 'rwyn dy weld, y feinir fach,
Yn lanach, lanach beunydd!

2. Glanach, lanach wyt bob dydd,
Neu fi a'm ffydd yn ffolach,
Er mwyn y Gwr a wnaeth dy wedd,
Gwna im drugaredd ballach.
Cwnn dy ben, gwel acw draw,
Rho i mi'th law wen dirion;
Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
Mae allwedd clo fy nghalon!

3. Tra fo dwr y mor yn hallt,
A thra fo 'ngwallt yn tyfu
A thra fo calon yn fy mron
Mi fydda'n ffyddlon iti:
Dywed imi'r gwir dan gel
A rho dan sel d'atebion,
P'un ai myfi neu arall, Ann
Sydd orau gan dy galon.

abc | midi | pdf
Source: William Cole, Folk Songs of England, Ireland, Scotland & Wales (Charles Hansen, 1961, pp. 228-9)

Notes:


Roud:
Laws:
Child:



Related Songs:  The Silver Wheat (thematic)

Browse Titles: A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W Y Z